Ysgol Hafan y Môr

Croeso i Ysgol Hafan y Môr

Datganiad o Genhadaeth

(Ffocws ar heddiw)

I greu amgylchedd dysgu hapus, diogel ac ysgogol lle gall pob aelod o gymuned yr ysgol magu hyder ac i ddatblygu eu llawn botensial.

Datganiad o Genhadaeth

(Ffocws ar y dyfodol)

Yn Ysgol Hafan y Môr, ceisiwn greu awyrgylch dysgu ac addysgu hapus, diogel a symbylus sydd yn darparu ar gyfer anghenion ysbrydol, moesol, meddyliol a chorfforol pob plentyn, trwy hybu ddisgwyliadau uchel trwy’r ysgol. Anelwn at sicrhau bod pob disgybl yn cael y cyfle i ddatblygu i’w lawn botensial a ffynnu o fewn diwylliant ysgol Gymraeg cariadus, digidol a chefnogol.

Amcanion Cyffredinol

I sicrhau bod ein dysgwyr yn uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes; (‘Dyfodol Llwyddiannus’)

I sicrhau bod ein dysgywr yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith; (‘Dyfodol Llwyddiannus’)

I sicrhau bod ein dysgywr yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd; (‘Dyfodol Llwyddiannus’)

I sicrhau bod ein dysgywr yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas; (‘Dyfodol Llwyddiannus’)

I gynnig addysg Gymraeg fydd yn galluogi pob plentyn i gyrraedd hyfedredd cyfartal yn y Gymraeg a’r Saesneg erbyn diwedd CA2;

I sicrhau bod pawb yn gweithio at alluogi pob plentyn i gyrraedd ei lawn botensial yn y Sgiliau Sylfaenol, sef Llythrennedd, Rhifedd, TGCh a sgiliau meddwl;

I alluogi pob unigolyn i ddod yn hyderus ac yn annibynnol yn ei ddysgu;

I annog y plant i ddangos ystyriaeth a pharch tuag at eiddo ac at eraill;

I annog y plant i ddangos balchder yn eu gwaith a’u hymddygiad ac i geisio am ragoriaeth yn ôl eu dawn ac aeddfedrwydd;

I ddatblygu’r Gymraeg fel iaith gyfrwng (yn addysgol ac yn gymdeithasol);

I alluogi pob plentyn i ddatblygu ei hunaniaeth ddiwylliannol ei hun ac ar yr un pryd hyrwyddo ei ddealltwriaeth o ddiwylliannau eraill a’u parchu;

I gael awyrgylch agored glòs sy’n cynnwys rhieni, y gymuned a’n holl randdeiliaid.