Dysgu Siarad Cymraeg

Dysgwch Gymraeg yn Ysgol Hafan Y Mor

Dysgwch Siarad Cymraeg yn Sir Benfro

Rydym yn darparu cyrsiau Cymraeg a digwyddiadau anffurfiol i oedolion o bob lefel. O sesiynau blasu, Cymraeg yn y Cartref, Mynediad, Sylfaen, Canolradd i Lefel Uwch. Chwiliwch am gwrs sy’n iawn i chi a dysgu ar-lein neu yn eich canolfan ddysgu leol.

01437 770180

learnwelsh@pembrokeshire.gov.uk

Mae Ysgol Hafan y Môr yn gweithio mewn partneriaeth gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro a Sbardun i gynnig cwrs blasu plant 7 wythnos AM DDIM i aelodau teulu plant yn Ysgol Hafan y Môr. Bydd y tiwtor yn eich helpu i gychwyn ar eich taith iaith Gymraeg gydag amrywiaeth o weithgareddau hwyliog yn y sesiynau cyfeillgar a hamddenol hyn.