Ein Clybiau

Clybiau a Gweithgareddau

Mae’r plant yn ymgymryd â nifer o weithgareddau amrywiol drwy’r flwyddyn ysgol. Disgwylir i’r plant gymryd rhan a chynrychioli’r ysgol â balchder. Mae nifer o’r gweithgareddau mewn cysylltiad â’r Urdd, ac felly, mae mwyafrif o’r plant Iau wedi ymaelodi â’r mudiad.

Perfformir cyngherddau tymhorol gan y disgyblion. Mae’r rhain yn cynnwys cyngherddau Nadolig, Cwrdd diolchgarwch, cyngherddau cerddorfa a pherfformiadau yn yr ardal leol.

Gwersyll yr Urdd Caerdydd, Llangrannog Canolfan Antur Llain

Mae disgyblion Iau yr ysgol yn cael cyfle i fynychu’r gwersyll a lletya am gyfnod er mwyn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau anturus a gweithgareddau awyr agored drwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg.

Codir tâl am y cwrs, a rhoddir cyfle i rieni dalu’n wythnosol tuag at y costau. Mae’r cwrs hwn, yn ogystal â bod yn addysgiadol, wedi profi’n gyfle gwerthfawr i’r disgyblion gyfnewid profiadau, dysgu bod yn annibynnol, meithrin dinasyddiaeth a gofalu am eraill.

Medrusrwydd Beicio

Mae Cymdeithas Diogelwch y Ffordd Sir Benfro mewn partneriaeth â’r ysgol yn rhoi gwersi `Diogelwch ar y Beic’ yn ogystal â threfnu cwis ar Ddiogelwch y Ffordd.

Clwb Brecwast

Mae clwb brecwast rhad ac am ddim ar gael i’r disgyblion o 8.00 i 8.25 y.b. Mae angen cofrestru ac mae rheolau’r ysgol yn berthnasol yn ystod y cyfnod hwn.

Atgoffir rhieni nad ydynt yn defnyddio’r clwb bod cyfrifoldeb yr ysgol am y plant yn cychwyn 15 munud cyn amser swyddogol dechrau’r ysgol. O ran safbwynt diogelwch, ni ddylai plant sydd heb gofrestru gyda’r clwb brecwast gyrraedd yr ysgol tan 8.40 y.b.

Clwb Hwyl

Mae Clwb Hwyl Hafan y Môr, yn glwb ar ôl ysgol a gynigir trwy gydol y flwyddyn academaidd yn ddyddiol a sy’n darparu gofal cofleidiol tan 5:15yh ar gyfer disgyblion yr ysgol. Pris y clwb: £4 yr awr, y pen.

Arweinydd y Clwb yw Mrs Hayley Davies

Am ragor o wybodaeth cysylltwch ar:

07507797145 neu clwbhwyl21@outlook.com